Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
Location
Wrexham, Wales | United Kingdom
Job description
Tiwtor – SSIE
Raddfa tâl: £29.16 yr awr (yn cynnwys tâl gwyliau)
Sir Ddinbych
Yn ogystal â phecyn buddion hael
Mae gan Adult Learning Wales |Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i diwtor SSIE cymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau i ddysgwyr yn ardal Sîr Ddinbych. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr ac Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, i gefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.
Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Dyddiad cau: 12yp Dydd Gwener 15fed Mawrth 2024 Nodwch nid ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd âffurflen gais ar wefan y cwmni.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Job tags
Salary
£29.16 per hour