logo

JobNob

Your Career. Our Passion.

Cynorthwyydd Dysgu


eTeach UK Limited


Location

Swansea | United Kingdom


Job description


Ysgol Gyfun Gwyr - Cynorthwy-ydd Dysgu Rydyn ni’n awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Dysgu i ymuno a’r Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gyfun Gŵyr i ddechrau mor gynted a phosib. Cyflog: GRADD 4. Bydd rolau'r swydd yn cynnwys: • Gweithio gyda phobl ifanc 11 i 18 oed. • Cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). • Cefnogi disgyblion gyda'u sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh.• Cefnogi athrawon mewn rolau amrywiol o fewn y dosbarth.• Addasu a pharatoi adnoddau a fydd yn addas ar gyfer y person ifanc y byddwch yn gweithio â nhw. • Helpu plant sydd angen cymorth ychwanegol i gynllunio a chwblhau tasgau. • Dangos empathi at anghenion eich disgyblion tra'n cael yr awydd i'w hannog i gyflawni eu potensial. • Deall y polisi diogelu plant a'ch rôl o fewn y polisïau hyn • Y gallu i ymddwyn yn broffesiynol bob amser tra'n gweithio yn yr ysgol. • Y gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, yn unigol ac mewn tîm. • Egni, brwdfrydedd, amynedd a synnwyr digrifwch. Oes gennych chi ddiddordeb i ddatblygu’n broffesiynol? Oes gyda chi’r cymwysterau neu brofiad perthnasol? Hoffech chi gynorthwyo disgyblion ar eu taith addysgol? Os felly, danfonwch eich llythyr cais ynghyd â’ch CV at sylw y CADY Emma Morris drwy law Rhiannon Cummins.Cofiwch ddarparu enw dau ganolwr sy’n medru cynnig geirda ar eich cyfer. Yn ddelfrydol, danfonwch y cais ar ffurf e-bost ond derbyniwn gopi caled hefyd - i’w ddanfon at sylw Rhiannon Cummins, Ysgol Gyfun Gŵyr, Stryd Talbot, Tre-gŵyr, Abertawe. SA4 3DD. Dyddiad cau 15/03/2024. O ganlyniad i natur, dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd hon, fe fydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Disclosure and Barring Service - DBS). Mae’r swydd hefyd yn amodol ar adroddiad llwyddiannus yn dilyn cyfnod prawf o chwe mîs yn gychwynnol. Gofynion Angenrheidiol y swydd: Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol hon ac o ganlyniad, mae’r gallu i gyfathrebu, ysgrifennu a darllen trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.


Job tags

Full time


Salary

All rights reserved