Activities and Events Manager
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Location
Richmond, Greater London | United Kingdom
Job description
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Events and Activities Manager
Full Time (37 hours per week) – Fixed Term: 2 Years
A new opportunity exits to join our Regenerative Tourism department to drive commercial income through the Authority’s activities & events programme, planning, promoting and delivering a programme of events and activities which foster a deeper understanding of the priorities of the National Park. Manage and direct the work of the Authority’s seasonal tourism team, promoting regenerative tourism principles and aim to deliver a better balance between the needs of tourists, local communities and nature.
You will:
• Increase the Authority’s income generation through a vibrant and engaging public programme of activities and events across the National Park.
• Act as the strategic lead in Authority wide internal events planning, including the creation and chairing of an internal events group and an associated internal events strategy for the National Park Authority.
• Represent the Authority on external event planning committees/groups, sharing best practice and promoting Regenerative Tourism principles. Also provide advice to external event organisers when required.
• Co-ordinate the marketing and promotion of the activities and events programme, whilst utilising the Authority’s online event booking system, input data and manage all activities and events bookings and queries.
• Line manage the seasonal tourism team, including recruitment, development, performance management and work planning, whilst maximising their ability to promote regenerative tourism principles.
You will need:
• proven experience in successful income generation, event management, volunteer and staff management, health and safety and working with stakeholders.
• good IT skills, with the ability to use systems for data inputting.
• the ability to work flexibly including working occasional weekends, bank holidays and evenings.
• a full UK drivers’ licence.
Salary and Benefits:
A salary of £24,948 - £26,845 (to be reviewed under pay and grading review), minimum 25 days holiday rising to 30 days plus public holidays, generous local government pension scheme, great flexible working arrangements and career development opportunities.
We are committed to equality of opportunity for all staff and applications from individuals are encouraged regardless of age, disability, sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.
We pledge to improve the diversity of our workforce and therefore guarantee an interview to disabled candidates, who meet the essential job criteria and opt to apply via our Disability Confident Employers Scheme.
Closing Date: 08 October 2023
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Rheolwr Digwyddiadau a Gweithgareddau
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) – Tymor Penodol: 2 Flynedd
Mae cyfle newydd wedi codi i ymuno â'n hadran Twristiaeth Adfywiol i hybu incwm masnachol drwy raglen yr Awdurdod o weithgareddau a digwyddiadau, gan gynllunio, hyrwyddo a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n meithrin dealltwriaeth ddyfnach o flaenoriaethau'r Parc Cenedlaethol. Rheoli a chyfarwyddo gwaith tîm twristiaeth tymhorol yr Awdurdod, gan hyrwyddo egwyddorion twristiaeth adfywiol ac anelu at sicrhau gwell cydbwysedd rhwng anghenion twristiaid, y cymunedau lleol a byd natur.
Byddwch:
• yn cynyddu incwm yr Awdurdod drwy raglen fywiog a deniadol o weithgareddau a digwyddiadau ar draws y Parc Cenedlaethol.
• yn arweinydd strategol o ran cynllunio digwyddiadau mewnol ar draws yr Awdurdod, gan gynnwys creu a chadeirio grwp digwyddiadau mewnol a strategaeth digwyddiadau mewnol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol.
• yn cynrychioli'r Awdurdod ar bwyllgorau/ grwpiau cynllunio digwyddiadau allanol, gan rannu arfer gorau a hyrwyddo egwyddorion Twristiaeth Adfywiol. Hefyd yn rhoi cyngor i drefnwyr digwyddiadau allanol pan fo gofyn.
• yn cydlynu'r gwaith o farchnata a hyrwyddo'r rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau, tra'n defnyddio system yr Awdurdod o archebu digwyddiadau ar-lein, mewnbynnu data a rheoli pob archeb ac ymholiadau am weithgareddau a digwyddiadau.
• yn rheolwr llinell y tîm twristiaeth tymhorol, gan gynnwys recriwtio, datblygu, rheoli perfformiad a chynllunio gwaith, tra'n gwneud y mwyaf o allu’r tîm i hyrwyddo egwyddorion twristiaeth adfywiol.
Byddwch angen:
• profiad profedig o lwyddo i greu incwm, rheoli digwyddiadau, rheoli gwirfoddolwyr a staff, rheoli iechyd a diogelwch a gweithio gyda rhanddeiliaid.
• sgiliau TG da, a'r gallu i ddefnyddio systemau ar gyfer mewnbynnu data.
• y gallu i weithio oriau hyblyg gan gynnwys gweithio o bryd i’w gilydd ar y penwythnos, gwyliau banc a fin nos.
• trwydded yrru lawn y DU.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £24,948 - £26,845 (i’w adolygu mewn adolygiad o gyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Job tags
Salary