logo

JobNob

Your Career. Our Passion.

Cadeirydd


Acorn Recruitment


Location

Cardiff | United Kingdom


Job description

Mae S&You yn recriwtio Cadeirydd ar hyn o bryd ar ran Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru.

Mae hon yn siwrnai at newid y tirlun chwaraeon cymunedol ledled Cymru a sut mae chwaraeon yn cael eu cyflwyno, gan greu newid sylweddol mewn lefelau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i gael mwy o bobl i fod yn actif drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol er mwyn i ni gyflawni ein gweledigaeth o 'Greu Cymunedau Iachach a Thrawsnewid Bywydau drwy Ffyrdd o Fyw Actif'.

Bydd PCCC yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant (gyda'r potensial i fabwysiadu statws elusennol ar yr amser priodol), o fewn fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth galon y Bartneriaeth bydd Bwrdd cytbwys, cynhwysol, amrywiol a medrus a fydd yn canolbwyntio ar ein cyfeiriad strategol.

Gan gynnwys swydd y Cadeirydd, bydd y Bwrdd yn penodi rhwng chwech ac wyth aelod i adlewyrchu diddordebau'r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i gyflawni uchelgais Canolbarth Cymru.

Manylion Allweddol

Lleoliad: Bydd lleoliad y cyfarfodydd yn newid am yn ail ac yn cael eu cynnal ar-lein ac ar draws cyfleusterau partneriaid yng Ngheredigion a Phowys.

Tymor: Pedair blynedd gydag ail dymor (yn amodol ar gymeradwyaeth) o dair blynedd.

Tâl: £5,000 y flwyddyn, ynghyd ag unrhyw gostau rhesymol sy'n codi wrth gyflawni dyletswyddau yn unol â Pholisi Cyllid a Gweinyddu PCCC.

Ymrwymiad: I ddechrau bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn fisol, ond bydd yr amledd yn cael ei adolygu yn dilyn y chwe mis cyntaf o weithredu wrth iddo ddod yn fwy sefydledig.

Pwrpas

Prif rôl Bwrdd Chwaraeon Canolbarth Cymru yw sicrhau bod cyfeiriad strategol ac amcanion PCCC yn cael eu datblygu, monitro perfformiad a defnyddio gwybodaeth a dysg i wella a thargedu ei darpariaeth yn barhaus. Bydd PCCC yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i fuddsoddi yn y rhanbarth yn flynyddol.

Rôl y Cadeirydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd profiadol, trawsnewidiol a all helpu i lunio dyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghanolbarth Cymru. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn ysbrydoledig sy'n angerddol am werth ac effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol a'r gred y dylai pawb fod yn actif gyda'i gilydd, am oes. Bydd hon yn rôl proffil uchel, yn dylanwadu ar bolisi a strategaeth ranbarthol a chenedlaethol ac ar flaen y gad o ran dylunio a datblygu chwaraeon cymunedol yng Nghymru.

Gan weithio gyda'r Tîm Gweithredol, rôl y Cadeirydd yw darparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfeiriad strategol, gan ganolbwyntio ar weledigaeth, gwerthoedd craidd, llywodraethu ac amcanion PCCC gan sicrhau'r canlynol:


Manyleb y Person


Y Broses Ymgeisio

Dyddiad Cau: Hanner nos ar 24ain Mawrth 2024

Dyddiadau'r Cyfweliadau: W/D 8fed neu 15fed o Ebrill, dyddiadau i'w cadarnhau.

Gwnewch gais ar-lein a bydd ymgynghorydd o S&you yn cysylltu â chi i ddweud mwy wrthych chi ac i drafod y camau nesaf. Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

1. CV wedi'i ddiweddaru

2. Datganiad ategol (Uchafswm o 1 Dudalen A4) yn nodi pam yr hoffech ymuno â'r bartneriaeth a pham rydych chi'n credu y byddech yn gwneud ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at y gofynion sydd ym manyleb y person.

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.


Job tags

Permanent employment


Salary

£15k per annum

All rights reserved