Location
Cardiff | United Kingdom
Job description
Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda Integral UK LTD gan mai ni yw'r cwmni mwyaf (sy'n tyfu gyflymaf) sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus ym Mhrydain. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ataliol ac adweitheddol i dros 1600 o gleientiaid mewn 60,000 o safleoedd. Rydym yn cynnig rhagoriaeth ym maes Peirianneg a diwylliant sy'n ymroi i gynnal partneriaethau cryf.
Rydym wrthi'n recriwtio am Swyddog Cyswllt Gweithle i ymuno â'n tîm sector cyhoeddus i weithio mewn modd chwyldroadol yn safleoedd ein cleient, gyda ffocws cryf ar brofiad y cwsmer. Mae hon yn rôl flaengar a bydd gofyn i chi oruchwylio ein darpariaeth o wasanaeth rheoli holl gyfleusterau'r safle yng Nghaerdydd. Mae hon yn rôl sy'n rhoi blaenoriaeth i brofiad y cwsmer a byddwch yn gyfrifol am gefnogi'r Rheolwr Cyswllt Gweithle a sicrhau fod y cwmni yn cyflawni ei oblygiadau cytundebol yn brydlon. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio o safle'r cleient gan adrodd yn uniongyrchol i'r Rheolwr Cyswllt Gweithle. Telir cyflog i chi yn unol â'ch cefndir, sgiliau a phrofiad.
Lleoliad: Caerdydd
Pwrpas y Rôl
- Bydd deiliad y rôl hon yn brif berson cyswllt ar y safle ac yn sicrhau'n anad dim y rhoddir blaenoriaeth i brofiad y cwsmer.
- Byddwch yn gyfrifol am gyd-lynnu contractwyr ac ymwelwyr â'r safle, gwneud gwiriadau dyddiol ar draws y safle ac adrodd i'r ddesg gymorth. Bydd cynnal gwiriadau cydymffurfiaeth wythnosol (gan gynnwys tân, hylendid dŵr a goleuadau argyfwng) hefyd yn rhan o gyfrifoldebau'r rôl.
- Fel Swyddog Cyswllt Gweithle, chi fydd yr ymatebydd cyntaf i'r holl faterion a fydd yn codi ar y safle. Byddwch hefyd yn gyfrifol am sicrhau fod cyfathrebu clir rhwng y cleient ac Integral Management ynglyn â gwaith o ddydd i ddydd .
- Byddwch yn cefnogi'r gwaith glanhau a chynnal a chadw, galwadau am gymorth mewn argyfwng, Gwaith Cynnal a Chadw Ataliol Cynlluniedig (PPM) a gwaith trwsio adweitheddol yn ôl y galw o safle i safle gan gynnwys goruchwylio gwaith a gwasanaethau sy'n cael eu isgontractio.
- Sicrhau bod ein cwsmeriaid/defnyddwyr yn hapus gyda'n gwasanaeth drwy ragweld ac ymateb yn ddi-oed i'w hanghenion a darparu gwasanaeth o'r lefel uchaf.
- Sicrhau bod aelodau eraill y tîm a chontractwyr a ddewiswyd yn ymateb yn ddi-oed i ddarparu gwasanaeth sy'n rhagori ar ddisgwyliadau ein cwsmer.
- Rhoi cyfarwyddid i hybu ymgysylltiad ar y safle a sicrhau gwasanaeth a chanlyniadau o'r radd flaenaf i'r cwsmer.
- Sicrhau cydymffurfiad gyda gofynion deddfwriaethol lleol ac arfer gorau, polisiau a gweithdrefnau Integral a'r cleient.
- Byddwch yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl agweddau gweithredol cyfleusterau'r safleoedd gan sicrhau bod darpar rwystrau yn cael eu nodi a'u dileu.
- Sicrhau parodrwydd ar gyfer argyfwng a bod cynlluniau yn eu lle ar gyfer argyfwng i ateb gofynion pob safle.
- Chi fydd y person cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater yn ymwneud â'r adeilad.
- Monitro a sicrhau gwaith cynnal a chadw a glendid y swyddfa i'r safon a'r ansawdd uchaf.
- Byddwch yn cyfathrebu mewn modd agored, gonest a thryloyw ac yn gallu teilwra'r wybodaeth/neges ar gyfer y gynulleidfa darged a'i anghenion.
- Byddwch yn ychwanegu gwerth o ran cyflawni ein gwasanaeth ac arloesi.
- Byddwch yn goruchwylio'r elfennau o reoli eiddo sydd â Thal Gwasanaeth ynghlwm â nhw ar ran y cleient (h.y. lle mae'r gwasanaethau dan sylw yn cael eu cyflawni gan y Landlord).
- Gwybodaeth am y sector Cynnal a Chadw Cyfleusterau.
- Profiad blaenorol mewn rôl debyg.
- Dealltwriaeth o ofynion iechyd a diogelwch y D.U.
- Sgiliau trefnu, sgiliau rhyngbersonol a sgiliau TG.
- Gallu cyflawni sawl tasg ar yr un pryd; gallu corfforol i wneud gwaith llafur â llaw.
- Natur gwrtais ac yn barod i helpu; sgiliau cyfathrebu cryf - ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Gallu blaenoriaethu tasgau a gweithio i amserlen benodol, heb fawr oruchwyliaeth.
- Dull rhagweithiol o ran nodi ac unioni materion sy'n ymwneud â'r adeilad.
- Yn gallu rheoli/cefnogi mewn argyfwng.
- Hunan-gymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol.
- Sgiliau gweinyddol ardderchog
Atebolrwydd a Chyfrifoldebau:
Sgiliau Allweddol, profiad a chymwysterau:
Bydd gofyn i bob ymgeisydd ddod â thystiolaeth o'i hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig a phrawf o'i hunaniaeth (ID) i'r cyfweliad.
Job tags
Salary