logo

JobNob

Your Career. Our Passion.

Swyddog Cyfathrebu


Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro


Location

Richmond, Greater London | United Kingdom


Job description

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddog Cyfathrebu
Llawn Amser (37 awr yr wythnos) – Parhaol

Mae cyfle newydd wedi codi i ymuno â'n tîm Cyfathrebu, lle byddwch yn rhoi cymorth cyfathrebu corfforaethol i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol drwy ddarparu gwasanaeth digidol, cysylltiadau cyhoeddus, cyhoeddiadau a marchnata cynhwysfawr i’w holl randdeiliaid allweddol.

Byddwch:
• yn gwella, datblygu a hyrwyddo’r cynnwys ar wefan a sianeli rhwydweithio cymdeithasol yr Awdurdod, gan sicrhau bod y wefan yn cael ei diweddaru a'i bod yn dilyn canllawiau arfer gorau.
• yn cynhyrchu deunydd ac adnoddau i’r wasg yn rheolaidd, a bod yn gyswllt allweddol â’r wasg, ffynonellau darlledu a chyfryngau ar-lein yn ogystal â chydlynu ceisiadau gan y cyfryngau am ddarlledu a ffilmio yn y Parc Cenedlaethol.
• yn darparu cyngor technegol ar ddatblygiadau ym maes cyfathrebu digidol, gan gynnwys cymwysiadau cyfryngau newydd.
• yn hysbysu a mesur pa mor effeithiol yw’r gwaith cyfathrebu digidol yn ogystal â chynorthwyo gwerthiant refeniw drwy’r siop ar-lein a’r llwyfannau digwyddiadau.
• yn cynhyrchu deunydd ysgrifenedig o safon uchel sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ac ymateb i negeseuon gan aelodau’r cyhoedd mewn modd amserol.

Byddwch angen:
• profiad diweddar o weithio gyda'r cyfryngau ac ymateb i geisiadau gan y cyfryngau, ar lefel broffesiynol.
• sgiliau cymwys mewn defnyddio pob rhaglen Microsoft a chyhoeddi ar wefan.
• profiad diweddar o weithio ar lefel broffesiynol mewn amgylchedd cyfathrebu/ y cyfryngau.
• gradd mewn newyddiaduraeth neu bwnc Cyfathrebu perthnasol.
• sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol yn yr iaith Gymraeg lefel C1.
• trwydded yrru lawn y DU.

Mae disgrifiad swydd llawn ar gael i'w lawrlwytho.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £30,151 - £32,020 (i’w adolygu mewn adolygiad o gyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg, a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 16 Hydref 2023


Job tags

Full time


Salary

All rights reserved