CARDIFF COUNTY COUNCIL
Location
Cardiff | United Kingdom
Job description
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Mynydd Bychan yn awyddus i benodi Pennaeth newydd sy'n ysbrydoledig, yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i arwain cymuned groesawgar ac uchelgeisiol yr ysgol. Ein nod yw cyflwyno cwricwlwm arloesol ar gyfer yr 21ain ganrif a fydd yn ysbrydoli ein disgyblion ac yn eu datblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, mentrus, gwybodus a hyderus. Mae gennym dîm ymroddedig, cyfeillgar sy’n gweithio’n galed er lles pob disgybl.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â sgiliau arweinyddiaeth cryf i gynnal y safonau uchel sydd eisoes wedi'u sefydlu yn Ysgol Mynydd Bychan, i ysbrydoli eraill i arwain drwy esiampl a chyfoethogi taith addysg ein disgyblion. Bydd y Pennaeth newydd yn llywio cyfeiriad tymor hir yr ysgol, sy'n cynnwys ehangu i ysgol mynediad dwy ddosbarth ac adleoli i safle newydd yn 2025. Byddant yn parhau i ddatblygu Cwricwlwm arloesol sy'n darparu ystod eang o gyfleoedd ac yn sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel o addysgu, dysgu a lles. Bydd gan y Pennaeth brofiad amlwg mewn gweledigaeth strategol gref a'r gallu i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â'r plant, y rhieni, y gymuned leol, Awdurdod Lleol Caerdydd a'n holl rhanddeiliaid.
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.
Job tags
Salary
£64.54k - £74.8k per annum